Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Y Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) | The Draft Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Bill

 

ALN 20

Ymateb gan : Mudiad Meithrin

Response from : Mudiad Meithrin

 

 

Beth yw eich barn ar y Bil drafft? Amlinellwch isod unrhyw bryderon sydd gennych, neu feysydd y credwch y dylai’r Pwyllgor archwilio ymhellach cyn i’r Bil gael ei gyflwyno yn ffurfiol.

 

Cynnigir sylwadau cyffredinol yma mewn ymateb i’r Bil Drafft, a bydd yr ymateb i’r Cod Drafft i’w weld yn yr adran nesaf.  Bydd ymateb llawn yn cael eu gyflwyno yn unol a’r amserlen Lywodraethol maes o law.

Rhan 2 – Termau allweddol Anghenion Dysgu Ychwanegol

2 Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae’r diffiniad sydd yn cael ei gynnig yn y Bil yn dehongli ADY yng nghyd-destun cyrhaeddiad disgwyliedig plentyn erbyn eu bod yn cyrraedd oed ysgol yn unig.  Mae hyn yn ddiffiniad cul o ‘ddysgu’ sydd ddim yn cydnabod y broses o sut mae babanod a phlant yn datblygu.  Wrth lynu at ddiffiniadau sydd yn ddibynnol ar gyd-destun addysg ffurfiol, mae perygl i anghenion plant am symbyliad (stimulation) anogaeth a rhyngweithio cymdeithasol (sydd yn gwbl hanfodol i ddatblygiad ymenyddol plant bach) gael ei anwybyddu neu ei ddiystyru.  Wrth ystyried asesu anghenion ychwanegol addysgol plant bach o dan dair oed dylai eu mynediad i brofiadau cynnar holl bwysig (fel cymdeithasu a chwarae mewn lleoliad fel Cylch Ti a Fi neu Gylch Meithrin) fod yn ystyriaeth.

Weithiau bydd anghenion llawer mwy sylfaenol am wasanaethau arbenigol e.e.. ffysio- therapi, therapi iaith a llefaredd ac ati angen dechrau ymhell cyn oedran ysgol, ond nid yw’r diffiniad hwn yn mynd i arwain at wasanaeth i’r plentyn oni bai ei fod yng nghyd-destun a fyddant yn gallu ‘dysgu’ yn yr ysgol yn y dyfodol.

Byddai ehangu'r diffiniadau i fod yn gynhwysfawr tuag at fabanod a phlant bach trwy ddefnyddio gwybodaeth am ddatblygiad plant yn hytrach na ‘addysg’ plant yn gwella ansawdd y Bil hwn.

 

4 Cod Anghenion Ychwanegol

Nid yw’r personau a ganlyn o dan y ddeddf yn cynnwys y personau o’r sector gwirfoddol fel partner posibl.

 5 Y weithdrefn ar gyfer gwneud  cod

Nid yw’r sector gwirfoddol wedi eu henwi fel personau a dylid cael eu cynnwys mewn ymgynghoriad am y Cod.

9 Cynlluniau Datblygu Unigol: ysgolion a gynhelir

Nid yw’r adran hon yn berthnasol i ddelio gyda chyfrifoldebau lleoliadau nas cynhelir sydd yn darparu addysg feithrin (statudol) 3 oed gan nad ydynt wedi eu henwi ac nid oes ganddynt Gorff Llywodraethol fel y cyfeirir ato mewn ysgolion a gynhelir.

10 Cynlluniau Datblygu Unigol: Sefydliadau Addysg bellach

Nid yw’r adran hon yn berthnasol i ddelio gyda chyfrifoldebau lleoliadau nas cynhelir sydd yn darparu addysg feithrin (Statudol) 3 oed gan nad ydynt wedi eu henwi ac nid oes ganddynt Gorff Llywodraethol fel y cyfeirir ato mewn ysgolion a gynhelir.

Nid oes unrhyw gyfeiriad at leoliadau addysg nas cynhelir a ariennir, a’u swyddogaethau nhw wrth ymwneud a phlant sydd ag ADY.  Mae hyn yn destun pryder.  Mae arfer gref a chadarn wedi eu sefydlu ers blynyddoedd o gydweithio rhwng y sector gwirfoddol a’r Awdurdodau lleol.  Ceir darpariaeth dysgu ychwanegol mewn cylchoedd meithrin a meithrinfeydd trwy gynlluniau cyfeirio.  Mae perygl i hyn niweidio darpariaeth sydd eisoes yn bodoli a thrin gwasanaethau sydd yn holl bwysig i blant a’u teuluoedd fel rhywbeth gwbl ymylol i’r broses statudol o gefnogi plant sydd a ADY.

11  Amgylchiadau pan nad yw’r dyletswyddau yn adrannau 9 a 10 yn gymwys

Noder yn (2)nad oes rhaid darparu Cynllun Datblygu unigol os yw person ifanc yn cydsynio a’r penderfyniad i wneud hyn.  Mae’r egwyddor hon yn gwbl groes i ysbryd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant sydd yn mynegi yn eglur iawn yn Erthygl 3

 

1. Ym mhob gweithred sy'n ymwneud â phlant, p'un a ymgymerir gan sefydliadau lles cymdeithasol cyhoeddus neu breifat,llysoedd barn, awdurdodau gweinyddol neu gyrff deddfwriaethol, rhaid i les pennaf y plentyn fod yn brif ystyriaeth.

 

Dylai fod prawf o les y plentyn yn ei gyfanrwydd yn hytrach nag ymrwymiad i seilio penderfyniadau ar farn y person ifanc yn unig.

12  Cynlluniau datblygu unigol: awdurdodau lleol

Deallwn fod cyfrifoldeb ar awdurdod lleol i lunio cynllun datblygu unigol i blant os ydynt yn cytuno bod ganddo/ganddi ADY.  Serch hynny mae’n annelwig sut mae’r awdurdod yn mynd i ddod i wybod am blant ag ADY posibl yn y blynyddoedd cynnar.  Os oes rhai plant yn cyrraedd ysgol cyn cael unrhyw ymyrraeth a chefnogaeth  byddai cyfle gwych i leihau anhenion dysgu ychwanegol y plentyn cyn iddo ef/hi gyrraedd ysgol wedi ei golli.

13 Amgylchiadau pan nad yw’r ddyletswydd yn adran 12 yn gymwys.

Noder yn (3) nad oes rhaid darparu Cynllun Datblygu unigol os yw person ifanc yn cydsynio a’r penderfyniad i wneud hyn.  mae’r egwyddor hyn yn gwbl groes i ysbryd y Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau plant sydd yn mynegi yn eglur iawn yn Erthygl 3

 

1. Ym mhob gweithred sy'n ymwneud â phlant, p'un a ymgymerir gan sefydliadau lles cymdeithasol cyhoeddus neu breifat,llysoedd barn, awdurdodau gweinyddol neu gyrff deddfwriaethol, rhaid i les pennaf y plentyn fod yn brif ystyriaeth.

Dylai fod prawf o les y plentyn yn ei gyfanrwydd yn hytrach ag ymrwymiad i seilio penderfyniadau ar farn y person ifanc yn unig.

14 Cynlluniau datblygu unigol: Byrddau Iechyd lleol ac ymddiriedolaethau CIG

Croesawn yr ymrwymiad i sicrhau dyletswydd statudol ar wasanaethau iechyd i ddarparu gwasanaethau yn unol a gopfynion Cynllun Datblygu Unigol.

15 Adolygu cynlluniau datblygu unigol

Mae’r Bil yn datgan yn glir iawn fod y cyfrifoldeb o gynnal y CDU yn perthyn i Gyrff llywodraethu ysgolion neu i’r awdurdod lleol.  Rhaid cael fframwaith amserol o safbwynt eu hadolygu yn gyson er mwyn sicrhau fod y gwasanaethau a’r gefnogaeth yn parhau i fod mor effeithlon ac y gall fod.  Serch hynny gan fod y ffenest i gefnogi yn gynnar fod yn fach yn y blynyddoedd cynnar.  Bydd rhai plant yn mynychu Cylch Meithrin neu leoliadau cyffelyb am lai na blwyddyn, felly mae’n hanfodol fod y system adolygu cefnogaeth yn cyd-fynd ag anghenion datblygu'r plentyn yn hytrach nag yn dilyn amserlen wedi ei osod gan ddeddf.  O dan (4) mae’n hollbwysig fod y sector gwirfoddol yn cael eu cynnwys yma gan y byddant yn debygol o fod yn bartneriaid ac yn gyfrifol am Ddarpariaeth Dysgu Ychwanegol i blant bach.

Dywed adran (6) fod gan y rhieni neu’r plentyn yr hawl i ofyn am adolygiad (sydd i’w groesawi) ond mae hyn yn cael ei danseilio try ddweud trwy ganiatâi i awdurdod lleol beidio ymateb os ydynt o’r farn nad oes angen gwneud adolygiad.  Dylai hyn ddim digwydd heb reswm teilwng a digonol oherwydd mewn cyd-destun o doriadau a phwysau cynyddol ar awdurdodau lleol mae perygl i hyn gael ei gamddefnyddio oherwydd diffyg adnoddau.

30 Darpariaeth ddysgu ychwanegol ac eithrio mewn ysgolion

Gan na fu sôn am ddarpariaeth dysgu ychwanegol yn y sector blynyddoedd cynnar nas cynhelir hyd yma, byddem yn disgwyl ei weld o dan yr adran hon.  Serch hynny mae (2) (rhoi darpariaeth dysgu ychwanegol mewn man ac eithrio ysgol SIC) yn cael ei danseilio i’r sector blynyddoedd cynnar trwy ddatgan:

 ‘ Ond ni chaiff awdurdod lleol wneud hynny ond os wedi ei fodloni y byddai’n amhriodol i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei wneud mewn ysgol.’

Dengys hyn fod y Bil yn anwybyddu anghenion plant o dan 3 oed yn llwyr ac mae hyn yn destun pryder gan ei fod yn gyfnod mor allweddol i ddatblygiad plant.

Ceir adrannau penodol am ofynion cofrestri ar gyfer ysgolion annibynnol, amodau sy’n gymwys i sicrhau DDY mewn ysgolion annibynnol, rhestr o sefydliadau ôl 16 arbennig.  Ac eto does yna ddim crybwyll o wasanaethau i blant o dan 3 oed na chyfeiriad at anghenion cofrestri lleoliadau gofal plant gydag Estyn a AGGCC, ble caiff llawer o blant gydag ADY ddarpariaeth dysgu ychwanegol trwy raglenni arbenigol Dechrau’n Deg, trwy wasanaethau cymdeithasol a thrwy addysg 3 oed. 

38 Gwasanaethau eirioli annibynol a 39 Cyfeillion achos

Gyda phlant o dan oed ysgol statudol mae’n her i roi gwasanaeth eirioli neu gyfaill achos annibynnol sydd ddim ynghlwm ag anghenion y rhieni hefyd.  Mae’r berthynas rhwng plentyn a rhieni / gofalwyr mor gyd-ddibynnol yn y cyfnod hwn nad fydd trefniadau eiriolaeth annibynnol yn effeithiol. Mewn gwirionedd ni all plant bach gael mynediad at eu hawliau llawn heb gefnogaeth eu rhieni / gofalwyr felly nid yw adrannau 1,2,3,4 a 5 yn ddigonol i sicrhau hawl y plentyn i herio ac i dderbyn gwasanaethau.  Rhaid cael trefniadau yn eu lle i gefnogi rhieni i fod yn eiriolwyr effeithiol ar eu rhan pan yn briodol neu ddarparu eiriolwyr teulu dros gyfnod y blynyddoedd cynnar.

40 Apelau

Heb gefnogaeth cynghori ac eirioli ar lefel teulu mae’n annhebygol y bydd rhieni yn gallu defnyddio eu hawl i apelio a ran plant yn y blynyddoedd cynnar.

46 Cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol

Nid yw’r adran hon yn berthnasol ar gyfer gwasanaethau’r blynyddoedd cynnar.  Dylid nodi yma pwy fydd yn cymryd y cyfrifoldeb cyffelyb ar gyfer plant sydd ddim mewn ysgol am eu bod yn rhy ifanc neu blant sydd yn derbyn eu haddysg feithrin gan yr awdurdod lleol mewn lleoliad nas cynhelir ac ariennir.

50 Hawl awdurdod  lleol i gael mynediad i fangreoedd ysgolion a sefydliadau eraill.

Nid oes un o’r adrannau a,b,c,d,e,f yn berthnasol i Gylchoedd Meithrin na meithrinfeydd dydd nac unrhyw leoliad arall nas cynhelir ble mae plant ifanc ag ADY yn derbyn addysg a gofal.  Felly ni fydd hawl statudol gan yr awdurdod lleol o dan eiriad y Bil hwn i gael mynediad iddynt.  Rydym yn sicr nad dyma fwriad yr adran hon gan fod gan gyrff rheoleiddio eraill hawl i gael mynediad i’r mangreoedd hyn.

 

Nodwch isod eich prif bryderon mewn perthynas â’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol. Gadewch i ni wybod a yw’r Bil, yn eich barn chi, yn mynd i’r afael â’r pryderon hyn, neu a oes angen rhagor o waith.

 

Gweler uchod – Mae angen llawer mwy o sylw i’r blynyddoedd cynnar

 

A oes gennych unrhyw sylwadau neu faterion eraill yr hoffech eu codi na soniwyd amdanynt uchod?

§    1.         Dylai’r Bil gael ei osod yn gadarn yng nghyd-destun hawliau plant trwy gynnwys cyfeiriad Gonfensiwn y Cenhedloedd unedig ar hawliau plant ar flaen y Bil fel y gwnaethpwyd gyda’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2004 (gweler isod)

§    (2)Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â phlentyn sy’n dod o fewn adran 6(1)(a), (b) neu (c) roi sylw dyladwy i Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a fabwysiadwyd ac a agorwyd i’w lofnodi, ei gadarnhau a’i gytuno drwy benderfyniad y Cynulliad Cyffredinol 44/25 dyddiedig 20 Tachwedd 1989 (“y Confensiwn”).

§    2.         Nid oes unrhyw sôn am yr iaith Gymraeg yn y Bil hwn, nac ychwaith unrhyw gyfeiriad at ddyletswyddau o dan Fesur y Gymraeg 2012.  gwyddom o sawl adroddiad ymchwil fod cael mynediad at wasanaethau yn iaith ddewisol y teulu a’r plentyn yn dal i fod yn hynod o anodd mewn sawl rhan o Gymru mae’n bwysig atgyfnerthu hawliau teuluoedd i gael y gwasanaethau arbenigol hyn trwy osod y disgwyliad yn y bil ac yn y ddeddf ei hun. Bu twf yng nghydnabyddiaeth pwysigrwydd cynllunio a darpariaeth amlasiantaethol dros y blynyddoedd diwethaf e.e.. Cefnogi Cynnar oedd yn fodd cadarnhaol o wella cyfathrebu rhwng asiantaethau yn ogystal â gwella profiad y plant a’r teuluoedd o dderbyn gwasanaethau priodol.  Mae’n siomedig i weld nad yw’r ethos hwn a’r ffordd hyn o weithio yn cael cydnabyddiaeth yn y Bil hwn.  

§    3.         Rhaid cael mwy o eglurhad o ddyletswyddau’r awdurdod lleol i ddiwallu anghenion plant sydd a ADY yn y blynyddoedd cynnar, yn arbennig o safbwynt dyletswyddau asiantaethau eraill fel Iechyd.  Mae hyn yn hollbwysig i blant o 0-2 oed ac i blant mewn lleoliadau nas cynhelir neu’r rheiny sydd ddim mewn unrhyw leoliadau addysg blynyddoedd cynnar.

4.       Dylid amlinellu trefniadau pontio cadarnhaol yn rhan o ddyletswyddau awdurdodau lleol i leddfu’r straen ar deuluoedd pan fo plant yn symud o un lleoliad addysgol i’r llall.